Monday, 3 June 2013

Gwylltio – encouraging children in Wales to discover wildlife / yn annog plant Cymru i chwilio am fywyd gwyllt

Children love to play computer games and watch TV but Gwylltio presenters Rhys and Cath will encourage children in Wales to go out and discover the wildlife in their area. Using the Gwylltio app (which is free to download here from the iTunes website) children can play search and find games, watch film clips and learn fun facts about wildlife in various habitats and seasons. During the Gwylltio series, children from all over Wales will venture out in their local areas to discover what wildlife is hiding there. They will set up secret cameras to see foxes, badgers and deer, set traps to catch moths and beetles, and use devices that will pick up mouse footsteps, a red squirrel's fur and detect other invertebrates (creatures without backbones). Gwylltio, every Monday at 6.05pm and every Saturday at 10.30am on S4C.


Mae Gwylltio yn gyfres natur newydd i blant sy'n dechrau ar S4C ddydd Llun, 17 Mehefin am 6.05pm. Mae plant heddiw yn hoffi chwarae ar y cyfrifiadur a gwylio'r teledu ond bydd Rhys a Cath, cyflwynwyr Gwylltio, yn annog plant Cymru i fynd allan i chwilio am y bywyd gwyllt yn eu hardal nhw. Gan ddefnyddio ap Gwylltio (sydd ar gael i'w lawr lwytho am ddim yma o wefan iTunes) gall plant chwarae gemau chwilio, gwylio ffilmiau a dysgu ffeithiau difyr am fyd natur mewn cynefinoedd a thymhorau amrywiol. Ar Gwylltio bydd plant o bob cwr o Gymru yn mynd allan i'w cynefinoedd nhw i chwilio am y bywyd gwyllt yno gan osod camerâu cudd i weld llwynogod, moch daear a cheirw. Byddant hefyd yn gosod trapiau i ddal gwyfynod a chwilod ac yn defnyddio teclynnau i ddatgelu olion traed llygod, ffwr gwiwerod coch a phob math o greaduriaid di-asgwrn cefn. Gwylltio, bob nos Lun am 6.05pm a bob dydd Sadwrn am 10.30am ar S4C.

Item contributed by Casia Wiliam of S4C

No comments:

Post a Comment