Thursday, 4 June 2015

Wales Biodiversity Week / Wythnos Bioamrywiaeth

Wythnos Bioamrywiaeth Cymru 6 – 14 Mehefin

Wales Biodiversity Week 6 – 14 June


Ymunwch â miloedd o bobl mewn mwy na 70 o ddigwyddiadau bywyd gwyllt sy’n arddangos bioamrywiaeth gyfoethog a thirweddau trawiadol Cymru. Darganfyddwch fywyd gwyllt eich bro chi, a dysgwch gan arbenigwyr bywyd gwyllt lleol sut y gallwch chi ‘wneud eich rhan’ er budd natur.


Sefydlwyd
Wythnos Bioamrywiaeth Cymru yn 2002, ac mae’n codi ymwybyddiaeth ynghylch natur. Caiff ei threfnu gan lu o sefydliadau amgylcheddol yng Nghymru sy’n aelodau o Bartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru.


Eleni, mae Wythnos Bioamrywiaeth Cymru wedi ymuno â Grŵp Rhywogaethau Estron Goresgynnol Cymru i dynnu sylw at fygythiad Rhywogaethau Estron Goresgynnol. Caiff yr ymgyrch ‘
Atal yr Ymlediad’ ei thargedu at bysgotwyr, defnyddwyr cychod a’r rhai sy’n defnyddio’r môr, a bydd rhoi’r ymgyrch ar waith yn helpu i gyfyngu ar ymlediad rhywogaethau niweidiol yn amgylcheddau tir a dŵr Cymru.


Dilynwch ni – rydym ar
@WBP_wildlife #WBW2015

Gwefan:
http://www.biodiversitywales.org.uk/Wythnos-Bioamrywiaeth-Cymru


Join thousands of people at over 70 wildlife-themed events showcasing the rich biodiversity and stunning landscapes of Wales.

Discover the wildlife on your patch and learn how you can ‘do your bit’ for nature from local wildlife experts.

Established in 2002, Wales Biodiversity Week is an awareness raising week for nature organised by a host of environmental organisations in Wales who are members of the Wales Biodiversity Partnership.

This year, Wales Biodiversity Week has teamed up with the Wales Invasive and Non-Native Species Group to highlight the threat of Invasive and Non-Native Species. TheStop the Spread’ campaign is targeted at angling, boating and marine users and its implementation will help restrict the spread of damaging species into Welsh terrestrial and aquatic environments.



Follow us — we’re on
@WBP_wildlife #WBW2015

Website:
http://www.biodiversitywales.org.uk/Wales-Biodiversity-Week


No comments:

Post a Comment